Ymgysylltu
Mae ein Swyddog Ymgysylltu yn gweithio gydag unigolion ag anabledd dysgu a’u teuluoedd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar bob lefel. Mae hyn yn cynnwys creu a chynyddu cyfleoedd i arbenigedd a barn unigolion a theuluoedd ddylanwadu ar hyfforddiant a pholisi yn gyffredinol.
Beth mae ein swyddog ymgysylltu yn ei wneud?
Yn annog aelodau newydd i ymuno.
Yn annog aelodau i siarad drostynt eu hunain.
Cael barn aelodau a gwrando ar eu materion
Ein Swyddog Ymgysylltu sy'n rhedeg ein Fforwm.
Mae hyn yn digwydd ar ddydd Llun ac mae'n gyfle gwych i siarad am faterion sydd gennych chi a hefyd i ddysgu am yr hyn sy'n digwydd yn eich cymuned a'r newyddion.