
Hunan Eiriolaeth Rhanbarthol
Ydych chi'n gwybod beth yw hunan eiriolaeth
Shell Williams -Aelod o'r grŵp hunan eiriolaeth a Cynrychiolydd Cenedlaethol All Wales People First
"Os ydw i'n gadael i bobl wybod beth rydw i eisiau, yna fe alla i gael mwy o reolaeth yn fy mywyd. Os oes gen i lais, mae'n golygu bod pobl eraill yn gwybod beth rydw i eisiau ei wneud.
Pan ddechreuais i siarad allan, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd i ddechrau ac roeddwn i'n nerfus ond rydw i'n fwy hyderus nawr. Rydw i eisiau bod mor annibynnol ag y gallaf fod."
Pam ei fod yn bwysig?
Cydraddoldeb ac Ansawdd Bywyd
Dylai pawb ddisgwyl cael gwasanaethau da a gwybod ei bod yn iawn siarad os nad yw rhywbeth yn iawn.
Gall wneud pethau'n well!
I chi ac i bobl eraill a chreu newid.
Lles ac Iechyd Meddwl
Mae'n helpu gyda theimlo'n gysylltiedig â'r byd o'ch cwmpas, wedi'ch grymuso ac mewn rheolaeth, yn magu hyder a hunan-barch.
Beth alla i ei wneud
Meddyliwch am yr hyn yr ydych ei eisiau a'i angen yn eich bywy
Dywedwch wrth bobl o'ch cwmpas am eich dymuniadau a'ch anghenion
Gofynnwch am help gan ffrindiau, teulu, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau
Gofynnwch gwestiynau am eich hawliau
Dewch o hyd i grŵp Hunan-Eiriolaeth lleol i ymuno ag ef
Sefydlwch eich grŵp Hunan-Eiriolaeth eich hun
Hoffech chi ddysgu mwy am grwpiau hunan eiriolaeth neu hunan eiriolaeth yng Ngogledd Cymru?
Cysylltwch â'n swyddog Hunan-Eiriolaeth Rhanbarthol Hannah drwy
llenwi ein ffurflen gyswllt
neu drwy ffonio ein swyddfa ar 01492 536486