Cyflogaeth
Cyflwyniad
Gall cychwyn ar eich taith i mewn i'r gwaith ddigwydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, nid oes angen iddo ddechrau gyda chyflogaeth lawn amser â thâl. Mae’n bwysig cydnabod bod gan unrhyw berson ag anghenion cymorth ychwanegol hawl i weithio. Rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion. Mae amrywiaeth o rolau gwaith fel: hyfforddeiaethau, prentisiaethau, gwirfoddoli a chyflogaeth yn y sector preifat.
Cydlynwyr Llwybr Cyflogaeth Gogledd Cymru
Mae'r sefydliad 'Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd' wedi cyhoeddi strategaeth newydd o ran cyflogi'r rhai sydd ag anableddau dysgu. Mae'r manylion ar gael yma:
Bellach, mae tri gweithiwr ar draws Gogledd Cymru sy'n arbenigo ym maes cyflogi pobl sydd ag anableddau dysgu.
Os ydych chi am i ni eich helpu o ran cael gwaith, mae angen i chi gwrdd â'r gofynion canlynol:
Diagnosis o anabledd dysgu
Bod yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol
leiaf 14 oed
Dyma'r manylion cyswllt:
Ynys Môn a Gwynedd: SianAngharadWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Conwy a Sir Ddinbych: Craig.bond@conwy.gov.uk
Sir y Fflint a Wrecsam: Sarah.Jones5@flintshire.gov.uk
Addasiadau Rhesymol
Addasiadau yw'r rhain sy'n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau sylweddol er mwyn iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd gwaith. Gall y rhain amrywio, ac maen nhw'n dibynnu ar ofynion yr unigolyn. Mae rhai o'r addasiadau yn cynnwys:
Llunio dogfennau mewn fformatau amrywiol, er enghraifft, Iaith Arwyddion Prydain, a thestunau mewn print mawr.
Creu mannau gwaith sydd wedi’u haddasu’n benodol, er enghraifft,
parthau tawel mewn lleoliadau sy'n cael eu rhannu ag eraill, goleuo wedi ei addasu.
Gweithleoedd sy'n hygyrch yn gorfforol.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb Hawliau Dynol yn esbonio 'addasiadau rhesymol' yma:
Mae ganddyn nhw hefyd adnoddau fideo ar eu sianel YouTube.
Dolenni defnyddiol i wybod eich hawliau
Anabledd Cymru - I ddarganfod mwy cliciwch yma.
Anabledd Cymru - Mae'r llyfryn hwn yn crynhoi deddfwriaeth allweddol a beth yw eich hawliau. Gellir dod o hyd i'r adnodd yma.
Awtistiaeth Cymru - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Scope- mae'r adnodd hwn yn helpu pobl ag anableddau i egluro hyn i'w gweithle. Cliciwch yma.
Rydym angen eich help
Rydym angen eich cefnogaeth i'n helpu i ddatblygu ein gofod gwybodaeth. Gofynnwn os ydych am ychwanegu unrhyw wybodaeth neu roi rhywfaint o adborth i ni, anfonwch neges atom.