
Clwb Ieuenctid
Ydych chi'n chwilio am le i ddod i wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chael amser gwych?
Dewch i ymuno ag un o'n Clybiau Ieuenctid!
Manteision ymuno â'n clybiau ieuenctid
-
Mae clybiau ieuenctid CC4LD yn lle gwych i ddod i gwrdd â phobl ifanc eraill ag anabledd dysgu mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar.
-
Rydym wrth ein bodd yn cael siaradwyr gwadd i mewn i’n clybiau ieuenctid. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth yr hoffech chi ddysgu amdano ac fe gawn ni weld a allwn ni gael unrhyw sefydliadau i mewn i siarad â ni neu ddysgu sgiliau newydd i ni!
-
Rydym yn trefnu gweithgareddau eraill yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sy'n dod i'n clybiau ieuenctid! Yn y gorffennol rydym wedi gwneud prydau allan, golff gwallgof a theithiau sinema!
Ein Clybiau Ieuenctid
-
Sir Conwy a Sir Ddinbych
Mae ein Clwb Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn cael ei redeg gan ein Swyddog Gwasanaeth Teulu Trossianol Matthew. I ymuno e-bostiwch Matthew ar:
Matthew@conwy-connect.org.uk -
Gwynedd a Mon
Mae ein Clwb Ieuenctid Gwynedd a Môn yn cael ei redeg gan ein Swyddog Gwasanaeth Teulu Trossianol Sammy. I ymuno e-bostiwch Sammy ar:
Samantha@conwy-connect.org.uk -
Sir y Fflint a Sir Wrecsam
Mae ein Clwb Ieuenctid Sir y Fflint a Wrecsam yn cael ei redeg gan ein Swyddog Gwasanaeth Teulu Trossianol Charlie.
I ymuno e-bostiwch Charlotte ar:
Eisiau dysgu mwy?
Llenwch y ffurflen gyswllt isod ac a. bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad. Rydym yn derbyn nifer fawr o negeseuon, felly byddwch yn amyneddgar a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.